Skip to main content

Llong rhyfel 'HMS Duke of Wellington', 1852

Disgrifiadau

Lansiwyd 'HMS Duke of Wellington', banerlong enwog Syr Charles Napier, yn Noc Penfro ym 1852. Dyma lun ohoni cyn i'r mastiau a'r hwyliau uchel gael eu hychwanegu.
Drwy gydol yr 1850au, cynhyrchodd Iard Longau Penfro llongau rhyfel pren olaf y Llynges Frenhinol ac fe chwaraeodd ran arloesol wrth ddatblygu'r llongau ager cynnar. Cafodd 'HMS Duke of Wellington' a llongau mawrion pren eraill y degawd eu trawsnewid wrth iddynt gael eu hadeiladu i gario ager. Cawsant eu torri yn hanner ar y slip a'u gwneud yn hirach i wneud lle i'r boeleri a'r peiriannau.
Lansiwyd yr 'HMS Duke of Wellington' tri llawr yn wreiddiol fel yr 'HMS Windsor Castle' ar 14 Medi 1852, ar yr un diwrnod a bu farw'r 'Iron Duke' (h.y. Dug Wellington) yn Walmer. Newidiwyd ei henw rai diwrnodau yn ddiweddarach er anrhydedd iddo.
Gwasanaethodd yr 'HMS Duke of Wellington', oedd â 131 gwn, fel banerlong yn y Baltig yn ystod Rhyfel Rwsia. Cafodd ei diraddio i wasanaeth yr harbwr yn ddiweddarach a'i defnyddio fel un o'r llongau cyflenwi ar gyfer y llynges yn Nociau Portsmouth.

Ffynhonnell: Lawrence Phillips, 'Pembroke Dockyard' in David W. Howell (ed.), 'Pembrokeshire County History. Volume IV. Modern Pembrokeshire 1815-1974' (Haverfordwest: Pembrokeshire Historical Society, 1993), tudalen 158.

Owner:
Pembrokeshire Record Office
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Benfro
Copyright Details:
Archifdy Sir Benfro 1970
Publisher Ref:
GTJ60285
Eitem wedi’i llwytho:
29/1/2010
Date originally created:
1852
Gwelediadau:
2303
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment