Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lluniwyd y llyfr coginio hwn, dyddiedig 1776, gan Ann Phelps, Withybush House ym Mhlwyf Rudbaxton, Sir Benfro. Mae'n cynnwys amrywiaeth o ddanteithion, melys a sawrus, ynghyd â nifer o gynghorion y cartref (fel sut i lanhau poptai dur a rysáit llathredd dodrefn). Gwnaeth yr awdures gofnod o'u ryseitiau mewn hen lyfr ymarfer ac mae'r tudalennau cynnar yn cynnwys tablau mathemategol print ynghyd â chyfres o gyfrifiadau mathemategol ar ffurf llawysgrifen.

Roedd Withybush House, cartref yr awdures, yn gysylltiedig â'r teulu Martin/Phelps o'r ail ganrif ar bymtheg nes i William Owen (adeiladwr a phensaer) ei brynu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw