Dyddlyfr Llawfeddyg Carchar y Sir, Hwlffordd [1820-35, 18 Hydref-24 Tachwedd 1820, delwedd 1 o 147]
Disgrifiadau
Cadwyd y dyddlyfr hwn gan lawfeddyg yng Ngharchar y Sir, Hwlffordd, yn ystod y cyfnod rhwng 1820 ac 1835. Mae pob cofnod yn nodi enw'r carcharor a'r ward, pa un a oedd y carcharor yn ddyledwr neu'n droseddwr, natur ei salwch neu afiechyd, dyddiadau ei ychwanegu a'i ddileu o restr y cleifion ('sick list'), ac yn fwyaf diddorol, a oedd wedi derbyn bwyd neu ddillad ychwanegol ar gais y llawfeddyg. Mewn nifer o enghreifftiau, mae sylwadau ychwanegol wedi'u cofnodi yn y golofn ar y dde.
Adeiladwyd Carchar y Sir ym 1799 ond ym 1820 codwyd adeilad newydd pwrpasol ac fe barhawyd i'w ddefnyddio hyd at 1879, pan ddaeth yn bencadlys i Heddlu Sir Benfro. Erbyn heddiw mae'n gartref i Archifdy Sir Benfro, lle cedwir y dyddlyfr hwn ar hyn o bryd.
Mae'r cofnodion ar y dudalen hon yn cyfeirio at garcharorion a oedd wedi'u cofnodi ar restr y carcharion sâl yn ystod gaeaf 1820-21 ac mae'r llawfeddyg yn mynegi ei bryder ynglŷn â dillad annigonol y carcharorion: 'The Trousers which the Criminals have, I think are too thin for the Winter and will be the means of injuring their Health. The most proper will be woollen'.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment