Chwarel Lechi Cefn, Cilgerran, 1908
Disgrifiadau
Roedd Chwarel Lechi Cefn yn un o blith cyfres o chwareli a oedd wedi'u lleoli ar ochr ddeheuol ceunant Teifi yng Nghilgerran, Sir Benfro. Yn ôl pob tebyg, roedd yn gweithio yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (cyn hynny o bosibl) hyd at tua 1920. Yn ddiweddarach, cludwyd deunydd gan graen ager i ardal weithio a thŷ peiriant. Cynhyrchwyd amrywiaeth o gynhyrchion addurniadol, gan gynnwys rhai crwm, yma yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl bod tramffordd fer hefyd yn gysylltiedig â'r chwarel hon.
Ffynhonnell: Alun John Richards, 'A Gazeteer of the Welsh Slate Industry' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tudalen 217.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment