Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Chwarel Lechi Cefn yn un o blith cyfres o chwareli a oedd wedi'u lleoli ar ochr ddeheuol ceunant Teifi yng Nghilgerran, Sir Benfro. Yn ôl pob tebyg, roedd yn gweithio yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (cyn hynny o bosibl) hyd at tua 1920. Yn ddiweddarach, cludwyd deunydd gan graen ager i ardal weithio a thŷ peiriant. Fel a welir yn y ffotograff hwn, cynhyrchwyd amrywiaeth o gynhyrchion addurniadol, gan gynnwys rhai crwm, yma yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl bod tramffordd fer hefyd yn gysylltiedig â'r chwarel hon.

Ffynhonnell: Alun John Richards, 'A Gazeteer of the Welsh Slate Industry' (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tudalen 217.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw