Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Bridget Bevan neu Madam Bevan (1698-1779) yn wraig ddylanwadol ym maes addysg yng Nghymru. Roedd yn ferch i John Vaughan, Derllys, a oedd yn ddyngarwr a noddwr yr S.P.C.K (the Society for the Promotion of Christian Knowledge). Roedd yn wraig grefyddol iawn a dechreuodd gwaith ei bywyd ym 1731 wrth iddi gynorthwyo ei ffrind, Griffith Jones, pregethwr a diwygiwr enwog, i sefydlu ysgol arbrofol yn Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. Dyma'r cyntaf o blith yr Ysgolion Cylchynol Elusennol Cymraeg. Cyfrannodd Madam Bevan symiau helaeth o arian at yr ysgolion hyn, a oedd yn symud o bentref i bentref ac a oedd yn darparu addysg am ddim i oedolion yn ogystal â phlant. Roedd yr holl waith yn yr Ysgolion Cylchynol yn cael ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Cymerodd Madam Bevan gyfrifoldeb am yr ysgolion wedi marwolaeth Griffith Jones ym 1761. Roedd ei annibyniaeth meddwl a'i gweithredoedd yn anarferol iawn yn ystod y ddeunawfed ganrif yng Nghymru. Fe'i gwelir yn y portread hwn yn dal llyfr gweddi wedi'i agor ar Salm 73. Peintiwyd y portread hwn gan John Lewis, a oedd yn gweithio fel peintiwr portread crwydrol yn Lloegr, Cymru ac Iwerddon. Eisteddodd aelodau eraill o'r teulu Vaughan ar gyfer yr arlunydd hwn ar y pryd. Parhaodd y portreadau teuluol yng nghartref y teulu, Derwydd, hyd nes iddynt gael eu gwerthu a'u gwasgaru yn arwerthiant y tŷ a'i gynnwys ym 1998. Olew ar gynfas. Mesuriadau: 124.5 x 99cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw