Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd Hugh Hughes (1790-1863), a aned yn Llandudno, ei hyfforddi fel torluniwr pren ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn arlunydd portreadau. Treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn ystod y cyfnod rhwng 1821 ac 1827 yng Nghaerfyrddin, wrth iddo gydweithio gyda John Evans, cyhoeddwr ac argraffydd, a chyhoeddwyr eraill. Ei waith gorau yw 'The Family of John Evans, Carmarthen, at Breakfast' a beintiwyd yn ystod y cyfnod hwn. Hefyd, fe beintiodd y portread bach hwn o wneuthurwr cabinet lleol, David Morley, ym 1824. Ymddengys bod David Morley yn gyd-fethodist ac mae hwn yn bortread gonest iawn, wedi'i gynhyrchu heb organmol. Olew ar bapur. Mesuriadau: 22.4cm x 15cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw