Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Er na wyddys fawr ddim ynglŷn â'r arlunydd hwn, fe ymddengys ei fod ef neu hi yn byw yn ardal Aberystwyth neu'n ymweld â'r rhan honno o Gymru yn rheolaidd. Roedd 'A Welsh Primitif' yn amlwg wedi'i hudo gan fywyd bob dydd y Cymry. Cafodd digwyddiadau a gweithgareddau bob dydd eu cofnodi'n fanwl, heb sentimentaleiddio na gwawdlunio pobl wrth eu gwaith. Roedd 'A Welsh Primitif' yn darlunio priodasau, bedyddiadau, angladdau a damweiniau. Mae'r olygfa hon yn dangos grŵp o wragedd gwledig yn paratoi i fynd i'r farchnad. Mae rhai o'r gwragedd wedi bwndelu eu nwyddau ar gyfer y farchnad yn eu ffedogau. Roedd darlunio gwrthrychau a ffigyrau i raddfa yn broblem i'r 'Welsh Primitif' ac nid yw'r darlun hwn yn eithriad. Mae'r plant yn y cefndir yn cael eu dangos fel oedolion bach, wedi'u gwneud i edrych yn fach gan y gwragedd ac mae'n amhosibl mesur y pellteroedd a ddangosir ar y ffordd enciliol. Darlun pen ac inc. Mesuriadau: 22.7cm x 36cm.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw