'The Fall of the Rhydol' gan yr arlunydd naïf a oedd yn cael ei alw'n 'A Welsh Primitif'
Disgrifiadau
Roedd tirlun cwm Rheidol a Phumlumon yn hoff bynciau'r arlunydd. Serch hynny, ni wyddom fawr ddim ynglŷn â'r arlunydd a adweinir wrth yr enw 'A Welsh Primitif' ac ychydig iawn o gliwiau ynglŷn â bywyd yr arlunydd a geir yn y darluniau. Er eu bod, yn ôl y sôn, yn weithiau naïf, gyda golygfeydd lletchwith (mae gan y rhan fwyaf o ddarluniau safbwyntiau, afluniadau ac anghysonderau lluosog), roeddynt yn ddramatig iawn hefyd. Llwyddodd yr arlunydd i greu'r effaith hon drwy liwiau cyfoethog a drwy drochi ardal ganol y peintiad mewn sbotlamp theatraidd o olau aur. Mae gan Amgueddfa Sir Caerfyrddin 23 darlun gan yr arlunydd hwn ac mae gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad o'i luniau hefyd . Llun dyfrlliw. Mesuriadau: 24cm x 32cm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment