'John Williams' gan David Patrick, 1850 (olew)
Disgrifiadau
Dyma un o bâr o bortreadau a beintiwyd gan David Patrick (1822-99) o'r teulu Williams; mae'r peintiad arall o wraig John Williams, Mary, yn dal eu merch ifanc, Sarah. Cafodd David Patrick ei fagu yng Nghaerfyrddin a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn forwr. Ceisiodd ennill ei fywoliaeth fel peintiwr portreadau yng Nghaerfyrddin yn ystod y 1850au ond erbyn 1861 roedd wedi'i restru fel peintiwr tai. Ni wyddys am unrhyw bortreadau eraill sydd wedi goroesi gan yr arlunydd hwn. Roedd Patrick yn amlwg yn arlunydd nad oedd wedi derbyn hyfforddiant ond mae'r gwaith lled naïf hwn yn dangos dinesydd egnïol a theilwng. Yn amlwg roedd John Williams, a oedd yn saer coed, wedi'i blesio gan iddo wneud fframiau solet pren ar gyfer y ddau bortread. Olew ar banel. Mesuriadau: 28.5cm x 22.5cm.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment