Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daw'r enghraifft hon o lythyr John Peckham, Archesgob Caergaint (tua 1230-92) at y Brenin Edward I, yn disgrifio marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282. Troswyd y darn i'r Gymraeg fel rhan o brosiect ehangach gan Dr Mark Rednap yn 2007, Lleisiau o'r Oesoedd Canol. Trawsysgrif o'r clip sain [Cyfieithiad i'r Gymraeg]Arglwydd, bydded i chi wybod bod y rhai a fu'n bresennol pan fu farw Llywelyn wedi canfod ynghudd ar ei gorff rhai pethau bychain. Ymysg pethau eraill roedd llythyr bradwrus wedi'i gelu â ffugenwau. Er mwyn eich rhybuddio, anfonwyd gopi o'r llythyr at esgob Caerfaddon. Mae'r gwreiddiol, ag arno selnod cyfrin Llywelyn, ym meddiant Edmund Mortimer, ac fe gewch chi'r pethau hyn os dymunwch. Anfonwn hwn i'ch rhybuddio, ac nid i achosi trafferth i neb. Gobeithiwn na fydd neb yn dioddef marwolaeth neu anaf o ganlyniad i'n gwybodaeth, ac y caiff yr hyn a anfonwn atoch ei gadw'n gyfrinachol. [Gwrandewch ar drawsysgrif sain gwreiddiol yn Eingl-Normaneg]

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw