Skip to main content

Dysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf

Disgrifiadau

Mae sawl ffordd i archwilio hanes y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith ar Gymru. Mae'r sefydliadau a'r gwefannau hyn yn lle da i gychwyn. Cymru'n Cofio - Mae'r safle hwn yn rhoi newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth am goffâd y canmlwyddiant yng Nghymru.www.cymruncofio.org/ Amgueddfa Cymru - Mae tudalen y Rhyfel Byd Cyntaf ar ein gwefan yn rhestru'r holl ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gyfer 2018/19, yn ogystal â rhoi dolenni i'n casgliadau Rhyfel Byd Cyntaf.amgueddfa.cymru/rhyfel_byd_cyntaf/ Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd wedi creu casgliad o lyfrau, papurau newydd, cyfnodolion, archifau ac effemera yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn eu mysg mae archif Edward Thomas ac atgofion o Frwydr Coed Mametz.www.cardiff.ac.uk/cy/specialcollections/explore/collection/first-world-… I nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi casglu, digideiddio a rhoi mynediad at filoedd o eitemau o'i chasgliadau yn ymwneud â phrofiadau'r Cymry.www.llyfrgell.cymru/casgliadau/pigion/cymrun-cofio-1914-18/ Cymru1914 - Dyma broject sydd wedi digideiddio nifer sylweddol o ffynonellau cynradd yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf o Lyfrgelloedd, Casgliadau Arbennig ac Archifau Cymru.cymru1914.org/cy/home Mae Cymru dros Heddwch yn rhoi gwybodaeth am hanes y mudiad heddwch yng Nghymru o'r Rhyfel Byd Cyntaf ymlaen.www.cymrudrosheddwch.org Mae adnoddau dysgu i athrawon ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf ar wefan Hwb. hwb.gov.wales/resources/cy Gallwch lawrlwytho'r rhestr hon o'r gwefanamgueddfa.cymru/caerdydd/digwyddiadau/10079/Pabir-Coffu

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
1/8/2018
Gwelediadau:
796
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment