Pabi Porffor a BathodynnauPawen Borffor
Pabi Porffor a BathodynnauPawen Borffor
Disgrifiadau
Cafodd y pabi porffor ei greu gan yr elusen Animal Aid yn 2006 er mwyn cofio'r anifeiliaid fu farw mewn rhyfeloedd. Yn ôl yr elusen: 'Yn ystod rhyfeloedd pobl, mae anifeiliaid wedi cael eu defnyddio fel negeseuwyr, sgowtiaid ac achubwyr, i gario nwyddau ac ar flaen y gad.' Roedd yr elusen yn anhapus â'r ffordd y câi anifeiliaid mewn rhyfel eu portreadu. Roeddent am bwysleisio mai cael eu cam-drin gan bobl oedd eu hanes, yn hytrach na'u bod yn 'arwyr' fu'n gweithio drosom. Oherwydd hyn, mae'r pabi porffor wedi'i ddisodli gan fathodynnau pawen borffor, i'w gwisgo drwy'r flwyddyn i godi ymwybyddiaeth am gamdriniaeth anifeiliaid.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment