Pabi Gwyn
Disgrifiadau
Ym 1933, cyflwynwyd y pabi gwyn gan Urdd Gydweithredol y Merched. Caiff ei werthu heddiw gan y Peace Pledge Union (PPU), ac mae'n symbol o heddwch heb drais.Dywed y Peace Pledge Union: 'Mae tair elfen i'r pabi gwyn: maent yn coffáu pawb a effeithiwyd gan ryfel; mae'n cynrychioli ymrwymiad i heddwch; ac mae'n herio ymdrechion i ddathlu neu ramanteiddio rhyfel.'Mae'r pabi gwyn yn coffáu pawb sydd wedi'u lladd neu'u hanafu mewn rhyfel, gan gynnwys milwyr, ond hefyd y miliynau a gollodd eu cartrefi ac a ddioddefodd salwch a newyn o ganlyniad i ryfel.Pan gafodd ei gyflwyno yn y 1930au, bu ymateb cryf i'r pabi gwyn. Er bod llawer yn ei weld fel ffordd bositif o hyrwyddo heddwch, credai eraill mai'r pabi coch yn unig ddylai gael ei werthu ar Sul y Cofio.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment