Ffatri’r Pabi
Ffatri’r Pabi
Disgrifiadau
Ym 1922, sefydlwyd Ffatri'r Pabi yn ne Llundain. Syniad yr Uwchgapten George Howson MC, sylfaenydd y Disabled Society ar gyfer cyn-filwyr anabl, oedd y ffatri. Trwy wneud pabïau artiffisial i'w gwerthu adeg Dydd y Cadoediad, gallai'r ffatri gyflogi pum gweithiwr anabl drwy'r flwyddyn. Mae'r ffilm hon o 1928 yn dangos pabïau'n cael eu cynhyrchu ar gyfer deg-mlwyddiant y Cadoediad.Erbyn 1933 roedd galw mawr am babïau ar gyfer Sul y Cofio, a symudodd y ffatri i safle mwy yn Richmond, Surrey. Heddiw, mae'r ffatri yn cynhyrchu bron i 40 miliwn pabi'r flwyddyn.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment