Pabi’r Coffáu
Pabi’r Coffáu
Disgrifiadau
Ym 1918 daeth yr Americanes, Moina Michael ar draws cerdd John McCrae. Cafodd ei hysbrydoli i droi'r pabi yn symbol coffáu yn America. Mabwysiadwyd y pabi gan Awstralia, Seland Newydd a Canada yn fuan wedi'r rhyfel hefyd.Cafwyd yr 'Apêl Pabi' cyntaf ym Mhrydain ym 1921. Cafodd pabïau ffabrig eu gwneud gan fenywod a phlant mewn ardaloedd a ddinistriwyd yn Ffrainc, a'u gwerthu i godi arian tuag at gyn-filwyr a theuluoedd y rhai a gollwyd.Ym 1922, sefydlodd y Lleng Brydeinig ffatri gynhyrchu pabïau ar gyfer cyn-filwyr anabl. Mae'r pabi'n dal i fod ar werth ledled y byd i godi arian tuag at gyn-filwyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment