Pabi ar Faes y Gad
Disgrifiadau
'Mae'r blodau yn Ypres deirgwaith mor dristâ'r blodau a blethwyd am arddyrnau'r Crist'Iwan Llwyd, 2003 Cafodd llawer o feirdd ac awduron eu hysgogi i ysgrifennu am y pabi coch llachar oedd yn tyfu o'u cwmpas ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu'n ysbrydoliaeth i genedlaethau o feirdd ers hynny.Un o'r cerddi enwocaf yn Gymraeg yw 'Y Pabi Coch' gan I. D. Hooson (1924), lle caiff y blodyn ei ddefnyddio fel trosiad am fachgen ifanc gaiff ei anfon i ryfel a'i ladd, ei 'waed yn lliwio'r llawr'. Er nad yw Hedd Wyn yn sôn yn benodol am y pabi yn ei gerddi, mae'n crybwyll mewn llythyr iddo weld blodau'n tyfu, gan ddweud mai 'blodau prudd fydd blodau Ffrainc' o hynny allan am mai 'lliw gwaed' fydd iddynt.Tra'r oedd yn ymladd yn Ffrainc ym 1915, ysgrifennodd y meddyg o Ganada, John McCrae y gerdd 'In Flanders Field'. Wedi'i chyhoeddi yn ddienw yng nghylchgrawn Punch ar 8 Rhagfyr 1915, daeth yn un o gerddi mwyaf adnabyddus y rhyfel.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment