Morffin heddiw
Disgrifiadau
Cyflwynwyd system ryngwladol ar gyfer rheoli cyffuriau yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae'r system yn parhau hyd heddiw. Yn dilyn Deddf Amddiffyn y Deyrnas 1916, roedd hi'n anghyfreithlon i unrhyw un heblaw meddygon a milfeddygon fod â chyffuriau yn deillio o opiwm yn eu meddiant. Cafwyd cytundebau rhyngwladol ynghylch masnachu cyffuriau yn y 1920au.Mae morffin ac opioidau eraill ymysg y poenladdwyr cryfaf ar gael. Caiff y rhan fwyaf o forffin sy'n cael ei gynhyrchu'n gyfreithiol ei drawsnewid yn gemegol i codin, sy'n wannach na morffin ac yn llai caethiwus. Mae morffin yn dal i gael ei ddefnyddio gan y Fyddin Brydeinig. Mae gan bob milwr ar wasanaeth gweithredol, gan gynnwys milwyr yn Afghanistan, ddyfais hunan-chwistrellu rhag ofn iddynt gael eu hanafu.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment