Morffin a Gofal Meddygol y Rhyfel Byd Cyntaf
Disgrifiadau
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, datblygwyd system soffistigedig ar gyfer trin a gwella anafiadau milwyr.Byddai'r cludwyr stretsier yn rhoi cymorth cyntaf ac yn cario milwyr clwyfedig i Orsaf Gymorth y Gatrawd. Roedd rhaid i swyddog meddygol wedyn geisio sefydlogi'r clwyf cyn anfon y milwr ymlaen, gan roi morffin iddo. Morffin oedd y brif ffordd o ladd poen yn y cyfnod hwn, a châi ei roi trwy bigiad neu ei lyncu. Roedd y nodwydd wydr hypodermig, a ddatblygwyd yn y 19eg ganrif, yn galluogi i ddos wedi'i rheoli gael ei chwistrellu i wythiennau'r claf.Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd morffin a chyffuriau eraill ar gael yn rhwydd. Yn dilyn pryderon ynghylch effaith gaethiwus morffin a chyffuriau eraill ar filwyr, cyflwynwyd rheolau llymach ar gyffuriau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment