Skip to main content

Rhyfeloedd Opiwm

Disgrifiadau

Erbyn canol y 19eg ganrif roedd masnachwyr o Brydain wedi creu marchnad lewyrchus ar gyfer opiwm yn Tsieina. Aeth llawer o boblogaeth y wlad yn gaeth i'r cyffur yn sgil hyn, a cheisiodd llywodraeth Tsieina ei wahardd rhag cael ei fewnforio. Atebodd yr Ymerodraeth Brydeinig gyda grym milwrol, gan arwain at 'Ryfeloedd Opiwm' 1839-1860. Gorfododd Prydain i Tsieina dderbyn ei amodau, gan greu'r cartel cyffuriau mwyaf yn y byd, ac adeiladu cyfoeth anhygoel. Erbyn 1918, roedd llawer o'r cyfoeth hwnnw wedi'i wario ar y Rhyfel Byd Cyntaf.Gadawodd y fasnach opiwm ei marc ar Gymru. Roedd John Rees (1801-1855), capten llong o Ddinbych-y-pysgod, yn gyfrifol am greu'r siartiau cywir cyntaf o arfordir Tsieina. Defnyddiwyd y siartiau hyn yn y Rhyfel Opiwm Cyntaf, a gwnaeth Rees ei ffortiwn yn masnachu opiwm, gan fuddsoddi'r arian mewn eiddo yn Sir Benfro. Heddiw, mae rhifau 1-5 Teras Lexden ymysg tai teras gorau Dinbych-y-pysgod, heb unrhyw arwydd o darddiad tywyll yr arian a'u cododd.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
1/8/2018
Gwelediadau:
1008
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment