Sut mae Opioidau’n gweithio
Sut mae Opioidau’n gweithio
Disgrifiadau
Mae'r gallu i deimlo poen yn hynod bwysig. Pan fyddwch yn teimlo rhywbeth poenus, caiff signal ei gario o'r nerfau yn y rhan honno o'r corff, trwy linyn y cefn, i'r ymennydd. Ar ei ffordd, bydd y signal yn teithio ar hyd sawl nerf, ac yn cael ei basio o un i'r llall gan negeseuon cemegol.Mae rhai opioidau - fel endorffinau - i'w cael yn naturiol yn y corff, ac yn atal y signal poen rhag cael ei basio rhwng nerfau. Mae tri chynhwysyn gweithredol opiwm - morffin, codin a thebäin - yn gweithredu fel endorffinau.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment