Skip to main content

Pabi a Meddygaeth

Disgrifiadau

"Mae'n rhyfedd meddwl fod yr holl gyffuriau cryf ... yn deillio o'r blodyn hardd a bregus", Bethan Wyn Jones, Doctor Dail 2.Roedd milwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn ddigon cyfarwydd â'r Pabi Coch a dyfai ar faes y gad, ond roedd rhywogaeth arall fyddai'n dod yn bwysicach fyth iddynt - Llysiau Cwsg, neu'r Pabi Opiwm (Papaver somniferum).O sudd y blodyn hwn y daw opiwm. Mae'n blanhigyn gwydn, yn tyfu i daldra o fetr a mwy, ac yn cynhyrchu alcaloidau chwerw i stopio anifeiliaid rhag ei fwyta. Yr alcaloidau hyn sydd yn yr opiwm.Mae opiwm wedi'i ddefnyddio ers canrifoedd i wneud i bobl gysgu, fel styptig, i atal chwysu a gwingo yn y cyhyrau, ac fel ffisig peswch.Cafodd morffin ei ddarganfod ym 1804, a'i enwi ar ôl Morpheus, duw Groegaidd breuddwydion. Mae'n boen laddwr effeithiol, a châi ei ddefnyddio yn helaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fodd bynnag, mae'n hawdd iawn mynd yn gaeth iddo, a gellir ei brosesu ymhellach i greu heroin a chyffuriau eraill - at ddibenion meddygol neu ar gyfer y fasnach gyffuriau anghyfreithlon.

Owner:
Amgueddfa Cymru
Crëwr:
Amgueddfa Cymru
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
1/8/2018
Gwelediadau:
821
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment