Llen Gwerin y Pabi
Disgrifiadau
Mae'r pabi wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn llên gwerin. Credai rhai pobl ei fod yn gwella cur pen ac yn eu hamddiffyn rhag mellt. Ond i eraill, y gwrthwyneb oedd yn wir - roedd pabi yn achosi cur pen yn ogystal â stormydd.Oherwydd ei fod mor drawiadol a hawdd i'w adnabod, mae'r pabi wedi'i gynnwys mewn sawl llysieulyfr - llyfrau sy'n cynnwys enwau a disgrifiadau o blanhigion, y defnydd y gellir ei wneud ohonynt, a'r chwedlau sy'n gysylltiedig â nhw. Ysgrifennodd William Salesbury, awdur y llyfr cyntaf erioed i'w gyhoeddi'n Gymraeg, lysieulyfr rhwng 1568 a 1574. Ynddo, mae'n dweud fod yfed diod wedi'i wneud o bennau'r pabi yn gwneud i berson gysgu, ac yn gwella sawl anhwylder. Fodd bynnag, mae John Gerarde yn ei lysieulyfr yntau (1597) yn rhybuddio fod gormod o sudd y pabi yn farwol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment