Pabi Cerameg - Denise Taylor
Disgrifiadau
Pabïau Cerameg, trwy garedigrwydd Denise Taylor, MBE.
Roedd hen daid Denise Taylor, y Preifat Dick Smith Thurston o 9fed Bataliwn y Gwarchodwyr Cymreig, yn byw yn 244 Heol y Parc, Cwmparc, Rhondda. Cafodd ei ladd mewn brwydr ar 26 Mehefin 1917, ac mae wedi’i gladdu yn West-Vlaanderen, Gwlad Belg.
Pan oedd Denise yn ifanc roedd ei hen ewythr, George Henry Thurston (mab Dick), yn byw gyda’r teulu, a byddai’n dweud straeon am ei dad yn aml. Ni chafodd erioed ei gyfarfod, ond yn ôl Denise byddai bob amser yn mynd yn emosiynol ac yn dweud ei fod yn falch ohono.
Bu farw George ym 1997, ac fe brynodd Denise un o’r pabïau o Dŵr Llundain iddi hi a’i merch, er cof am ei hen daid, gan wybod y byddai ei hen ewythr wedi prynu un pe bai ef yn fyw.
Dywedodd Denise: “Chefais i erioed gyfarfod y Preifat Dick Smith Thurston, ond roedden ni’n ei nabod trwy atgofion y teulu. Rydym yn teimlo balchder fod ein hen daid, a chynifer o ddynion eraill, wedi rhoi eu bywydau er ein mwyn ni.”
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment