Pabi Cerameg Sally Donovan
Disgrifiadau
Pabi Cerameg, trwy garedigrwydd Sally Donovan.Prynodd Sally Donovan y pabi hwn i gofio cyfraniad ac aberth pobl fel ei hen-daid - a weithiai mewn pwll glo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - a'i theidiau yn yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei thaid, Stanley Perrett, yn bresennol yn Dunkirk ac yn Bergen-Belsen pan ryddhawyd y gwersyll crynhoi hwnnw.Dywedodd Sally: "Alla i ddim dechrau dychmygu'r erchyllterau a welodd. Ni fedrai drafod y rhyfel, a bu'n dioddef hunllefau am flynyddoedd."Roedd nain Sally, Elizabeth May Perrett, yn gweithio mewn ffatri arfau. Yn ôl Sally, roedd ei chyfraniad hi at ymdrech y rhyfel hefyd yn bwysig, gan fod rhaid iddi wynebu'r erchyllter a hefyd ofalu am ei gŵr wedi iddo ddychwelyd o'r rhyfel.Collodd Elizabeth ei brawd, David, oedd yn beilot, pan saethwyd ei awyren dros y Sianel. Yn ôl Sally, ddaeth hi erioed dros y golled hon: "Roedd hi'n cadw llun ohono wrth ei gwely tan iddi farw. Wnaeth hi erioed gymodi â Duw. Pobl gyffredin yn byw mewn oes anghyffredin oedden nhw, yn aberthu'u hunain dros eraill, a throsom ni heddiw. Rwyf yn arbennig o ddiolchgar, ac wnaf i fyth anghofio."
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment