Celf i Goffáu
Disgrifiadau
Castell Caernarfon oedd y lle cyntaf yng Nghymru i gynnal gosodiad celf Paul Cummins a Tom Piper, Poppies: Weeping Window. Roedd yn lleoliad addas gan mai dyma gartref Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.Ymladdodd llawer o Gymry gyda'r Ffiwsilwyr Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys ym Mrwydr y Somme. Yn ogystal â chyrraedd cynulleidfa ehangach, roedd Poppies: Weeping Window yn gyfle i deuluoedd lleol rannu eu straeon personol.Mae'r Weeping Window yn gasgliad o filoedd o babïau cerameg a wnaed â llaw. Roedd i'w weld gyntaf yn Nhŵr Llundain yn 2014, yn llifo o ffenest uchel i'r llawr. Cafodd y gosodiad gryn ymateb, ac ysgogwyd nifer o bobl i rannu straeon anwyliaid a gollwyd mewn rhyfeloedd.Cafodd y pabïau cerameg eu gwerthu dros y byd i gyd, a chodwyd miliynau o bunnoedd, gafodd ei rannu'n hafal rhwng chwech elusen filwrol.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment