Adfywiad y Pabi
Disgrifiadau
Ers diwedd y 1980au mae ffermwyr wedi derbyn cymorth gan lywodraethau i hybu bioamrywiaeth trwy gyfrwng cynlluniau amaeth-amgylcheddol - Glastir yng Nghymru. Caiff ffermwyr eu hannog i adael i blanhigion llydanddail dyfu ar ymyl caeau. Mae hyn yn helpu planhigion fel y pabi i ffynnu, ac yn creu cynefinoedd ar gyfer pryfed ac adar.Yn 2004, lansiwyd Arolwg Planhigion Cyffredin gan yr elusen gadwraeth PlantLife, yn gofyn i bobl gofnodi planhigion 'cyffredin' oeddent yn eu gweld. Daethant i'r casgliad fod 120 rhywogaeth o flodau gwylltion yn dibynnu ar ffermio cnydau, ac mai dyma'r grwˆp o blanhigion sydd dan fwyaf o fygythiad yng Nghymru.Fel rhan o arolwg PlantLife, cynhaliwyd arolwg penodol ar gyfer y pabi. Gofynnwyd i bobl chwilio am Babi Coch, Hirben, Pigog a Gwrychog. Dangosodd y canlyniadau fod y Pabi Coch yn tyfu ar ochr ffyrdd ac mewn tir diffaith. Mae'r Pabi Hirben hefyd yn fwy cyffredin oherwydd cynlluniau fel Glastir.Mae'r Pabi Coch erbyn hyn yn gallu gwrthsefyll rhai chwynladdwyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment