Llwy garu sycamorwydden 1847
Disgrifiadau
Llwy garu sycamorwydden, wedi'i pheintio i edrych fel derw a'i harsgrifio â'r dyddiad, 1847.
Llwyau caru yw'r enwocaf o blith arwyddion serch Cymru a chredir bod cariadfeibion wedi'u rhoi i'w cariadon o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Peidiodd yr arfer yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond parhawyd i'w cerfio mewn ardaloedd gwledig yn arbennig. Daeth yr arferiad o greu llwyau caru yn gelfyddyd ac yn aml fe'u cynhyrchwyd ar gyfer cystadlaethau gwaith pren ac Eisteddfodau.
Daw'r llwyau caru a welir yma o Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ac maent yn cynrychioli un o'r casgliadau gorau yng Nghymru.
[Ffynhonnell: D. C. Perkins, 'Lovespoons from Wales' (Swansea, 1989)]
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment