Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Castell Rhuddlan ym 1277, a hwn oedd yr ail gastell a godwyd yng Nghymru gan y Brenin Edward I. Ar un ochr i amddiffynfeydd y castell consentrig mae doc ar yr afon, ynghyd â ward fewnol arbennig ar ffurf diemwnt.

Ymosododd y Cymry ar Gastell Rhuddlan yn ystod gwrthryfel 1294, ac eto yn ystod gwrthryfel Glyn Dwr ym 1400. Er na ddifrodwyd y castell yn ystod y gwrthryfel hwnnw, difrodwyd rhannau o dref Rhuddlan yn sylweddol iawn. Bu'r castell yn nwylo'r Brenhinwyr yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr cyn syrthio i ddwylo'r Seneddwyr ym 1646. Ym 1648 cafodd y castell ei ddinistrio ymron yn llwyr yn unol â pholisi'r Seneddwyr i rwystro unrhyw ddefnydd pellach o'r adeilad.

Ffynonellau:
http://www.castlewales.com/rhudln.html
http://cadw.wales.gov.uk/

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw