Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r 'Llyfr Ymwelwyr' hwn yn rhestru enwau'r bobl a fu'n ymweld â charcharorion yng Ngharchar Biwmares. Ar y tudalennau sy'n dilyn, gwelir enwau'r bobl rheini a ddaeth i weld Richard Rowlands, carcharor a gafwyd yn euog o lofruddio ei dad-yng-nghyfraith yn Llanfaethlu. Cafodd Rowlands ei ddedfrydu i farwolaeth ac ef oedd yr ail garcharor - a'r olaf - i gael ei grogi'n gyhoeddus yng Ngharchar newydd Biwmares yn Ebrill 1862. Rhoddwyd caniatâd i nifer o bobl ymweld â Rowlands yn ystod y dyddiau cyn iddo gael ei grogi. Roedd yr ymwelwyr hyn yn cynnwys ei wraig, ei fab a'i berthnasau agos a nifer o weinidogion a fu'n gweddïo gydag ef.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw