Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cafodd y lamp ddiogel gyntaf ei gwneud a'i phrofi gan Syr Humphrey Davy (1778-1829) ym 1815. Roedd fflamau canhwyllau neu lampiau olew yn medru tanio'r nwyon a oedd yn aml iawn yn bresennol o dan ddaear mewn pyllau glo, gan achosi ffrwydron. Roedd y lamp ddiogel yn rhwystro hyn. Os bydd nwy methane yn mynd i'r Lamp Davy ac yn tanio, ni fydd y fflam yn medru dianc drwy'r gwifrwe ('gauze') gan fod tymheredd y nwy yn disgyn islaw'r pwynt tanio unwaith y bydd yn dod i gysylltiad â gwifren haearn mân.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw