Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Adeiladwyd Tabernacl, Capel y Bedyddwyr Cymraeg, ym 1861, ar adeg pan oedd tref Pontypridd yn tyfu o ran maint a phwysigrwydd yn sgil suddo nifer o byllau glo yng nghymoedd y Rhondda gerllaw. Ym 1910, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant dyfodiad mudiad y Bedyddwyr i'r dref - cafodd y capel ei ehangu, ac ychwanegwyd yr organ, y gwaith coed celfydd a'r nenfwd plastr, a'r ffenestri gwydr. Adeiladwyd baddon bedyddio hefyd o dan y pulpud. Cafodd yr organ ei hadeiladu yn Huddersfield. Caewyd y capel ym 1982, ac aeth Cyngor Tref Pontypridd ati i droi'r adeilad yn Ganolfan Hanesyddol a Diwylliannol Pontypridd a agorodd ym mis Gorffennaf 1986.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw