Portread o Syr Samuel Brown (1776-1852), sylfaenydd Gwaith Cadwyni Brown-Lenox, Pontypridd
Disgrifiadau
Samuel Brown (1776-1852) a'i gefnder Samuel Lenox oedd yn gyfrifol am sefydlu Gwaith Cadwyni Brown Lenox ym Mhontypridd ym 1818. Prif gynnyrch y gwaith oedd ceblau cadwyn ar gyfer angorau, a'r gwaith hwn ym Mhontypridd oedd yn cyflenwi'r holl geblau angorau ar gyfer y Llynges Frenhinol hyd 1916, yn ogystal â chyflenwi cadwyni ar gyfer llongau teithwyr enfawr gan gynnwys y Mauretania a'r Aquitania. Roedd y gwaith hefyd yn cynhyrchu cadwyni ar gyfer pontydd crog, yn cynnwys Pont Menai, Pont Hammersmith, a'r Chain Pier yn Brighton. Roedd peiriannau pyllau glo a nifer fawr o eitemau llai eraill hefyd yn cael eu cynhyrchu yn y gwaith, fel tramiau glo a sbrings ar gyfer wagenni rheilffyrdd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment