'The Death of Tewdrig' gan John Evan Thomas, 1848
'The Death of Tewdrig' gan John Evan Thomas, 1848
Disgrifiadau
Mae'r cerflun hwn yn portreadu Brenin Tewdrig cyn ei farwolaeth. Roedd Tewdrig yn sant o'r pumed ganrif ac yn frenin Morgannwg. Cynlluniwyd y cerflun gan John Evan Thomas ym 1848, ac fe'i ailfodelwyd gan ei frawd, William Meredyth Thomas, a'i gastio mewn efydd gan ddefnyddio dull electrolysis gan gwmni Elkington & Co., Birmingham, ym 1856.
Cwblhawyd y gwaith ar gyfer cystadleuaeth yn Eisteddfod Y Fenni 1848. Roedd gan y trefnwyr, a oedd yn cynnwys Thomas Price ('Carhuanawc') ac Arglwyddes Llanofer, amcanion gwladgarol ac roeddynt yn awyddus i hybu celf gweledol Gymreig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment