Disgrifiad

Yn ôl cyfrifiad 1871, roedd Emily Ann Lloyd yn byw gyda'i rhieni, ei chwaer hŷn a'i hewythr, uwchben y Banc Taleithiol Cenedlaethol yn Llanbedr Pont Steffan lle'r oedd ei thad yn rheolwr banc. Yn frodor o'r Gelli Gandryll, sir Frycheiniog, symudodd William A. Lloyd i Lanbedr Pont Steffan gyda'i wraig Elizabeth a aned ym Margam. Ar ddyddiad y cyfrifiad roedd Emily yn 9 mlwydd oed a'i chwaer Hessie yn 10.

Mae Emily wedi gwneud copïau gofalus o'r llythyrau a anfonodd at amryw o'i ffrindiau a'i pherthnasau rhwng 10 Mawrth 1871 a 24 Medi [1872]. Efallai fod hyn yn rhan o'r ymarferion a osodwyd gan eu hathrawes Sopia [sic] Humphreys o Aberystwyth.

Ysgrifenna Emily ynglŷn â'i gweithgareddau dyddiol ac mae ganddi gryn dipyn i'w ddweud ynglŷn â'i hanifeiliaid anwes. Yn anffodus, fe ymddengys fod yr anifeiliaid i gyd yn marw yn ystod cyfnod y llythyrau. Er bod y rhan fwyaf o'r llythyrau wedi'u hysgrifennu o Lanbedr Pont Steffan, symuda'r teulu i Gonwy ac mae'r llythyrau hwyrach wedi'u hysgrifennu oddi yno.

Mae'r llythyrau hyn yn rhoi cipolwg ar fywyd plentyn dosbarth canol a oedd yn byw yng Nghymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw