Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd priodasau cudd yn galluogi cyplau i briodi'n gyfreithiol heb seremonïau eglwysig ffurfiol. Byddai'r priodasau fel arfer yn digwydd ymhell o gartrefi'r ddau, heb ostegion, ac yn aml heb drwydded. Yn aml byddai'r seremonïau hyn yn cael eu cynnal er mwyn osgoi cyhoeddusrwydd neu er mwyn caniatáu priodas heb gydsyniad y rhieni os oedd y rhai a oedd yn priodi o dan 21 mlwydd oed. Prin yw'r dogfennau sydd wedi goroesi o'r priodasau hyn.

Dyma dystysgrif priodas gudd Samuel Edwards o blwyf Llanfihangel Ystrad a Margaret Jones o blwyf Ciliau Aeron, Ceredigion. Cynhaliwyd y gwasanaeth priodas ymhell i ffwrdd ym mhlwyf Llanfynydd yn neoniaeth Caerfyrddin.

Er bod y dystysgrif wedi'i hysgrifennu'n rhannol yn Lladin, mae rhan helaeth ohoni yn Saesneg ac mae'n darllen fel a ganlyn:

'God Save King George Amen

Whereas Samuel Edwards of the parish of Llanvihangel Ystrad [wedi'i mewnosod uwchben] in the county of Cardigan of the one part, & Margaret Jones of the parish of Killie Ayron in the county of Cardigan of the other part were married at Llanfinith [Llanfynydd] in the Deanery of Carmarthen the 28th day of Septemb[er] Month 1753. According to the Rites and Ceremonies of the Church of England...'

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw