Skip to main content

Llyfr Adroddiadau Swyddogion Wyrcws Ffordun, 1795-1798 [clawr]

Disgrifiadau

Adeiladwyd y wyrcws ar ôl i ddeddf gael ei basio ym 1792:
'for the better relief of the poor belonging to the parishes of Montgomery and Pool [Trallwng], and certain other parishes and places...'.

Adeiladwyd yr wyrcws ar y cyd yn Ffordun oherwydd ei leoliad, hanner ffordd rhwng y Trallwng a Threfaldwyn.

Y llyfr adroddiadau'r wyrcws hwn, 1795-1798, yw un o'r rhai cynharaf o'i fath i oroesi yng Nghymru. Ymddengys mai stiward neu feistr yr wyrcws a'i lluniodd, a thrwy'r llyfr hwn cawn gipolwg diddorol iawn ar fywydau'r preswylwyr a'r rheiny a oedd yn ennill eu bara menyn yn yr wyrcws.

Ar ochr chwith pob tudalen ceir nodiadau ar ddigwyddiadau a rhybuddion ynglŷn â phethau sydd angen eu gwneud yn yr wyrcws. Ar yr ochr dde mae canlyniadau'r digwyddiadau hyn neu benderfyniadau.

Ni chyfeirir at yr holl ddigwyddiadau yn y disgrifiadau sy'n cyd-fynd â'r llyfr adroddiad hwn. Serch hynny, tynnir sylw at nifer o ddigwyddiadau diddorol neu ddigwyddiadau anarferol.

Owner:
Powys County Archives Office
Crëwr:
Forden Poor Law Union
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Archifdy Sir Powys
Copyright Details:
Archifdy Sir Powys 2002
Publisher Ref:
GTJ28001
Eitem wedi’i llwytho:
26/1/2010
Date originally created:
1795-1798
Gwelediadau:
2403
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment