Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd y 'Thetis' yn llong ddur a oedd yn 343 tunnell gofrestredig a adeiladwyd yn Dunbarton ym mis Gorffennaf 1893 (mae barcentîn yn llong gydag o leiaf tri hwylbren sydd wedi'u paratoi mewn modd arbennig). Roedd yn 12 troedfedd o hyd yn 12 troedfedd o ddyfnder a'i thrawst yn 25 1/2 troedfedd.

Rhwng 1898 a 1901 ei chapten oedd y Capten David W. Thomas, Aeron Maid, Aberaeron. Ar 21 Gorffennaf 1901, hwyliodd y 'Thetis' am Port Stanley yn Ynysoedd y Falkland ar y ffordd i Salvador. Ar ei bwrdd oedd cafn golchi defaid wedi'i wneud o haearn, roedd yn 45 troedfedd o hyd a chwe throedfedd o ddyfnder. Roedd pwysau y cafn ynghyd â gweddill y llwyth yn golygu bod y llong yn beryglus o isel yn y dŵr. Protestiodd y Capten Thomas gan wrthod ei hwylio, ond rhoddwyd y cynnig iddo naill ai ei hwylio neu ildio'i reolaeth. Felly fe aeth a'r llong allan a chollwyd y 'Thetis' mewn tymestl ffyrnig o'r gogledd-ddwyrain pan oedd ddeng niwrnod o Stanley.

Ffynhonnell: 'Aberayron 1971 Exhibition of Paintings of Sailing Ships and Ships Equipment by Gwilym M. Jones' (Catalog Arddangosfa)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw