Peintiad o'r llong 'Kilmeny' a hwyliodd o harbwr Aberaeron (1 o 3)
Disgrifiadau
Meistr y llong hon yn ystod blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif oedd y Capten John Davies, Angorfa, Aberaeron (1855-1938). Roedd yn fab i David Davies, saer llongau o Dre-fach.
Dechreuodd John Davies ei yrfa fel morwr yn fachgen 12 oed pan hwyliodd gyda'r cychod pysgota lleol. Derbyniodd y rhan fwyaf o'i addysg ar y môr. Aeth yn ei flaen i basio arholiadau morwrol ac fe'i ddyrchafwyd yn gapten ar rai o'r llongau cefnforol mwyaf. Hwyliodd o amgylch yr Horn sawl gwaith: hwyliodd o'i amgylch ddwsin o weithiau yn y llong 'Clyde Vale' o dan gapteniaeth Capten Jones. Dywedir iddo ymladd yn erbyn môr-ladron ym Moroedd Tsieina.
Ffynhonnell: 'Aberayron 1971 Exhibition of Paintings of Sailing Ships and Ships Equipment by Gwilym M. Jones' (Catalog Arddangosfa)
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment