Baled ynghylch llongddrylliad y 'Royal Charter' ger Ynys Môn, 25 Hydref 1859, tudalen 1
Disgrifiadau
Cafodd y faled hon ei hysgrifennu gan John Evans, 'Bardd Tysilio Môn' neu'r 'Bardd Cocos' (1827-1895), ac mae'n adrodd hanes llong y 'Royal Charter' a ddrylliwyd ger Moelfre, Sir Fôn, ar 25 Hydref 1859.
Roedd y 'Royal Charter' ar ei ffordd o Awstralia i Lerpwl. Gadawodd harbwr Corc ar gyfer rhan olaf ei thaith ond cafodd ei chwythu ar y creigiau ger Moelfre yng nghanol storm ffyrnig. Drylliwyd y llong tua 50 llath o'r lan. Llwyddodd tua 50 o bobl i gyrraedd y lan, ond boddwyd gweddill y criw a'r teithwyr (dros 400 o bobl), gan gynnwys nifer o wragedd a phlant. Daethpwyd o hyd i rai o'r cyrff yn ddiweddarach ar draethau'r ardal ac fe'u claddwyd ym mynwentydd yr eglwysi lleol. Gweler tudalen olaf y faled, am restr o'r Cymry a gollodd eu bywydau. Yn ddiweddarach, ymwelodd Charles Dickens â'r ardal ac ysgrifennodd am y drychineb yn ei lyfrau 'The Uncommercial Traveller' a 'The Wreck of the Royal Charter'.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment