Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Baled sy'n adrodd hanes Gelert, ci y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth. Yn ôl y chwedl, aeth Llywelyn allan i hela gan adael ei fab bychan yng ngofal ei gi ffyddlon, Gelert. Pan ddychwelodd y Tywysog, daeth Gelert i'w gyfarfod. Sylwodd Llywelyn fod ei drwyn yn wlyb gan waed ac nid oedd ei faban i'w weld yn un man. Ymosododd Llywelyn ar y ci ac fe syrthiodd i'r llawr wedi ei anafu. Ymhen rhai munudau, fodd bynnag, clywodd Llywelyn faban yn crio a daeth o hyd i'w fab, yn ddiogel yn ei grud. Gerllaw'r crud roedd corff blaidd mawr yn gorwedd - roedd yn amlwg ei fod wedi bod yn ymladd yn ffyrnig gyda Gelert. Dychwelodd Llywelyn at ei gi ond bu hwnnw farw yn y fan. Yn ôl yr hanes, claddwyd Gelert gerllaw pentref Beddgelert yn Eryri.

Ffynhonnell: http://www.snowdonia.org/

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw