Y 'Brown Bess' neu fwsged 'Long Land' y gwŷr traed Prydeinig, 1748
Y 'Brown Bess' neu fwsged 'Long Land' y gwŷr traed Prydeinig, 1748
Disgrifiadau
Wrth iddynt gasglu trethi yn yr Alban ym mis Tachwedd 1750, boddwyd 17 o aelodau Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig pan suddodd eu cwch wrth groesi Dornoch Firth. Collwyd eu harfau. Mae'r mwsged hwn yn un o'r arfau a gafwyd yn eu lle. Mae'r geiriau 'Royal Welch' wedi eu hengrafu ar y baril, ac mae'r rhif 18 yn dynodi ei fod yn perthyn i gwmni dan arweiniad Capten Hickman, o 1748-56. Stampiwyd enw'r gof gynnau, sef 'Wood', a dyddiad gwneuthuriad y gwn, sef 1748, ar y plât cloi uwchben y glicied.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment