Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd yr eryr Ffrengig yn cyfateb i Liw'r Gatrawd Brydeinig. Byddai baner y gatrawd yn cael ei hoelio i'r polyn pren, ond yr Eryr uwchben oedd yn bwysig. Roedd yn symbol o'r Gatrawd ac o'r Ymerawdwr Napoleon Bonaparte. Byddai colli'r Eryr mewn brwydr yn golygu colli anrhydedd Ffrainc. Ildiwyd yr Eryr hwn gan yr 82ain Catrawd Ffrengig pan gipiwyd Martinique gan fyddin Brydeinig, a oedd yn cynnwys y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, ar 24 Chwefror 1809.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw