Darlun yn dangos 'Fflach' y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gan J. A. Atkinson (dyfrlliw)
Disgrifiadau
Dyma'r darlun cyntaf y gwyddys amdano sy'n dangos aelod o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn gwisgo'r 'Fflach', sef rhubanau duon ar gefn ei war.
Mae'r 'Fflach' yn dyddio o'r cyfnod pan fyddai milwyr yn gwisgo plethu ac, oherwydd y saim, yn eu clymu yn yr hyn a elwid yn 'queue bag'. Ym 1808 pan benderfynodd y Fyddin ddiddymu plethu, roedd y Gatrawd yn gwasanaethu yn Nova Scotia, Canada, ac fe wnaethant wrthod cymdymffurfio â'r gorchymyn. Yn y pen draw, pan beidiodd y milwyr â gwisgo eu gwallt mewn plethau penderfynwyd cadw'r rhubanau a oedd yn eu dal, sef y 'Fflach'. Ym 1834 gorchmynnodd Cadfridog a oedd yn archwilio'r Gatrawd y dylid tynnu'r Fflach. Cafodd y mater ei gyfeirio at y Brenin William IV ac fe rhoddwyd caniatâd swyddogol i'r Gatrawd wisgo'r Fflach fel arwydd o'i harwahanrwydd. Dywedir mai'r Is-Gyrnol John Christopher Harrison a enillodd yr hawl i'r Gatrawd wisgo'r 'Fflach'. Ymunodd ef â'r Gatrawd ym 1805 gan ymddeol ym 1837 fel swyddog. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) awgrymodd Arglwydd Kitchener na ddylid gwisgo'r Fflach gan y byddai'n darged hawdd i'r gelyn saethu ato. Nid oedd y Brenin Siôr V yn cytuno, a dywedodd na fyddai'r gelyn byth yn gweld cefnau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Mae'r Fflach yn cael ei wisgo hyd heddiw gan holl aelodau'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment