Skip to main content

Allweddau giât cilddor Corunna, Sbaen, 1808

Disgrifiadau

Ym 1808 roedd y rhyfel yn erbyn Ffrainc wedi cyrraedd ei anterth. Hwyliodd 2il Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig o Falmouth yng Nghernyw i Corunna yn Sbaen - roedd 671 o swyddogion a dynion, 48 o wragedd ac 20 o blant ar y fordaith. Cyrhaeddasant Sbaen ar 13 Hydref. Y bwriad oedd cefnogi byddin Syr John Moore a'i gynorthwyo i erlid y Ffrancwyr o Sbaen. Ychydig cyn y Nadolig, clywodd Moore ei fod ar fin cael ei ddal gan Napoleon a'i fyddin gref, felly penderfynodd gilio dros y mynyddoedd i Corunna. Roedd y daith yn un anodd iawn gan fod yr eira'n drwm ar y llawr ac roedd bwyd ac esgidiau'n brin. Roedd nifer o'r dynion, ynghyd â'u gwragedd a'u plant, yn droednoeth. Ychwanegwyd at eu problemau gan storm wyllt yn ystod y nos ar 8 Ionawr. Roedd yn anodd iawn cadw disgyblaeth ac roedd llawer o ddwyn a meddwdod ymhlith y milwyr. Eto i gyd, mae'n werth nodi mai 78 o ddynion yn unig a gollwyd erbyn i'r 2il Fataliwn gyrraedd Corunna ar 11 Ionawr.

Dechreuodd y frwydr yn Corunna am 2 o'r gloch y prynhawn ar 16 Ionawr. Llwyddwyd i atal y Ffrancwyr rhag ennill tir ond anafwyd Moore yn angeuol. Am 10 o'r gloch y nos dechreuodd y milwyr esgyn ar y llongau ac erbyn y bore canlynol dim ond dau frigâd a oedd yn weddill ar y lan. Aethant ar fwrdd y llongau ar noson y 17/18 Ionawr, ac 2il Fataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig oedd yr olaf i adael y darn hwn o dir Sbaen. Ysgrifennwyd yr hanes isod flynyddoedd yn ddiweddarach gan Miss Fletcher, disgynnydd un o'r swyddogion a oedd yn bresennol ar y diwrnod hwnnw:

'The rear-guard was commanded by Captain Thomas Lloyd Fletcher, of the Royal Welch Fusiliers. He, with his corporal, were the last to leave the town. On their way to embark, and as they passed through the gates, Captain Fletcher turned and locked them. The key not turning easily, they thrust in a bayonet, and between them managed it. Captain Fletcher brought away the keys, and they are now in the possession of his son ... The keys are held together by a ring, from which is suspended a steel plate, with the inscription 'Postigo de Puerta de Abajo' ('Postern of lower gate'). One key still shows the wrench of the bayonet.'

Ymunodd Thomas Fletcher â 4ydd Reifflwyr Ceylon ym 1810. Ymddeolodd fel Is-Gyrnol ym 1846 gan symud i fyw i Maesgwaelog, Overton, a Gwern Haulod, Ellesmere, lle magodd ei bum mab a'i saith merch. Bu farw ym 1850. Cyflwynwyd allweddau Corunna i Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gan H. Lloyd Fletcher ym 1955.

Ffynhonnell: Awdur y testun - Peter Crocker, Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Owner:
Royal Welsh Fusiliers Regimental Museum
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Amgueddfa Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Copyright Details:
Amgueddfa y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig 2003
Publisher Ref:
GTJ18619
Eitem wedi’i llwytho:
26/1/2010
Date originally created:
1808
Gwelediadau:
1483
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment