Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cyhoeddwyd yr engrafiad pren hwn o'r terfysg yn yr Wyddgrug yn 'The Illustrated London News' ym mis Mehefin 1869. Dechreuodd yr helynt yn y dref wedi i ddau löwr gael eu dedfrydu i garchar am ymosod ar reolwr pwll glo Leeswood Green ym mhentref Coed-llai.

Ni fu'r berthynas rhwng y glowyr a John Young, rheolwr y pwll, erioed yn un da ond roedd wedi dirywio'n fawr yn ystod yr wythnosau a arweiniodd at yr helynt. Cythruddwyd y glowyr gan benderfyniadau ac agwedd drahaus y rheolwr; er enghraifft, nid oedd Young, Sais o Swydd Durham, yn caniatáu i'r glowyr siarad Cymraeg yn y pwll ac ar 17 Mai 1869 cyhoeddodd y byddai cyflogau'r glowyr yn cael eu cwtogi. Gwylltiwyd y glowyr gan y penderfyniad hwn ac yn dilyn cyfarfod a drefnwyd ger y lofa ddeuddydd yn ddiweddarach, ymosododd nifer ohonynt ar John Young cyn ei orymdeithio'n ddiseremoni at orsaf yr heddlu ym Mhontblyddyn. Arestiwyd saith o lowyr ar amheuaeth o ymosod ar Young, ac fe'u gorchmynnwyd i sefyll eu prawf yn Llys yr Ynadon, yr Wyddgrug ar 2 Mehefin 1869. Cafwyd hwy oll yn euog a dedfrydwyd Ismael Jones a John Jones, yr arweinwyr honedig, i fis yr un yn y carchar gyda llafur caled.

Fel y gellid disgwyl, roedd yr achos llys wedi denu cryn sylw yn yr ardal ac roedd torf enfawr wedi dechrau ymgasglu yn nhref yr Wyddgrug i glywed y dyfarniad. Gan ragweld y problemau a allai godi, roedd Prif Gwnstabl Sir y Fflint eisoes wedi sicrhau gwasanaeth heddweision o bob rhan o'r sir, ac wedi galw am gymorth milwyr o Gaer yn gynharach y bore hwnnw. Fodd bynnag, wrth i'r awdurdodau geisio symud y ddau garcharor o'r llys i'r orsaf rheilffordd, lle'r oedd trên yn aros i'w cludo i'r carchar yng Nghastell y Fflint, aeth y dorf yn wyllt, gan daflu cerrig ac ati at y swyddogion. Saethodd y milwyr at y dorf gan ladd pedwar o bobl. Yn fuan wedyn, dechreuodd y dorf wasgaru ac erbyn y bore canlynol, roedd y strydoedd yn wag.

Er iddo wadu'r cysylltiad, mae nofel gyntaf Daniel Owen, y teiliwr a'r nofelydd o'r Wyddgrug, wedi ei seilio i raddau helaeth ar ddigwyddiadau haf 1869. Cafodd y nofel 'Rhys Lewis' ei chyhoeddi fesul rhan yn 'Y Drysorfa', cylchgrawn misol y Methodistiaid Calfinaidd, rhwng 1882 a 1884.

Darllen pellach: Jenny a Mike Griffiths, 'The Mold Tragedy of 1869: An Investigation' (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 2001)

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw