'Extent of the Counties of Caernarvon, Anglesey (1352) and Merioneth (c. 1400) [ffolio 30r, delwedd 1 o 19]
Disgrifiadau
Lluniwyd y llawysgrif hon - 'Extent of Anglesey and Caernarvon' gan John de Delves, dirprwy-ustus gogledd Cymru, ym 1352. Cyfeirir at y llawysgrif yn aml fel 'the Record of Caernarvon' gan i'r tudalennau sy'n ymwneud â Sir Gaernarfon gael eu cyhoeddi ym 1838 dan olygyddiaeth Syr Henry Ellis. Lluniwyd trydedd rhan y llawysgrif, sy'n ymwneud â Sir Feirionnydd, yn ddiweddarach ar ddechrau'r bymthegfed ganrif. Ystyrir y ddogfen hon ymhlith un o'r ffynonellau pwysicaf o safbwynt astudio hanes economaidd a chymdeithasol Gwynedd yn yr oesoedd canol. Mae'r ddogfen yn rhestru'n fanwl y rhenti a'r gwasanaethau a oedd yn ddyledus i'r arglwydd lleol gan ei denantiaid ym mhob cwmwd.
Detholiad o'r tudalennau sy'n ymwneud â Sir Fôn a Sir Feirionnydd a ddangosir yma.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment