Liber Pontificalis Aniani Bangor, c. 1260-6 [ffolio 8v, delwedd 1 o 4]
Disgrifiadau
Mae 'Liber Pontificalis Aniani Bangor' yn gyfrol llawysgrif a luniwyd ym 1260-6, ac mae'n cynnwys 167 o dudalennau memrwn. Amcan y llyfrau Pontifical canoloesol oedd hwyluso gwaith yr esgob gan eu bod yn cynnwys yr holl wasanaethau a oedd yn ymwneud â'i ddyletswyddau gweinidogaethol, e.e. conffirmasiwn, ordeinio offeiriaid a diaconiaid, ynghyd â chysegru a gorseddu esgobion ac archesgobion. Credir i'r llawysgrif hon gael ei pharatoi ar gyfer Anian, esgob Bangor rhwng 1267 a 1305. Credir bod y mes a welir yng nghornel y dudalen yn cysylltu'r llawysgrif â mynachlog y Brodyr Llwydion yn Llan-faes, Sir Fôn. Mae cysylltiad amlwg rhwng y gair 'mes' a Llan-faes [Llan+mes] ac roedd lluniau o ddail y goeden dderwen a mes hefyd yn addurno teils llawr canoloesol mynachlog Llan-faes.
Detholiad bychan yn unig o'r llawysgrif a ddangosir yma.
Ffynhonnell: T. J. Morris, 'The Liber Pontificalis Aniani of Bangor', 'Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club' (1962), 5
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment