Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Rhestrir enwau naw o ymgeiswyr ar gyfer cyngor llywodraethol y Wladfa Gymreig ar y papur pleidleisio. Gofynnir i'r etholwr neu etholwraig ddewis saith o'r rhestr a rhoi llinell trwy'r enwau eraill. Nodir hefyd y bydd yr aelod etholedig gyda'r nifer leiaf o bleidleisiau yn dal ei swydd am flwyddyn yn unig.

Pan sefydlwyd y Wladfa Gymreig ym 1865, roedd dynion a menywod dros ddeunaw oed a oedd wedi preswylio yno am flwyddyn neu fwy yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cyngor. Er bod y Wladfa yn rhan o weriniaeth Ariannin, roedd ei threfn wleidyddol ymhlith y mwyaf democrataidd yn y byd yn y cyfnod hwnnw.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw