Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Tudalen flaen y llyfr 'Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta' gan Dr John Davies, sef llyfr gramadeg Cymraeg a gyhoeddwyd yn Lladin ym 1621. Mae'r copi arbennig hwn o'r llyfr hefyd yn cynnwys englyn Lladin a gyfansoddwyd gan y bardd Goronwy Owen (Goronwy Ddu o Fôn) (1723-69) ym 1738.

Roedd John Davies ( tua 1567-1644), yn ysgolhaig, geiriadurwr a gramadegydd pwysig. Ym 1632 cyhoeddodd 'Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarium Duplex', sef Geiriadur Cymraeg-Lladin. Yn ogystal, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o gyfieithu'r testunau Beiblaidd i'r Gymraeg. Treuliodd gyfnod yn cynorthwyo'r Esgob William Morgan gyda'r cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1599) ac yn ddiweddarach ef oedd yn bennaf cyfrifol am baratoi'r argraffiadau diwygiedig a phoblogaidd o'r Beibl Cymraeg (1620) a'r Llyfr Gweddi Cyffredin (1621). Roedd Davies hefyd yn offeiriad ac fe'i gysylltir yn bennaf â phlwyfi Mallwyd a Llanymawddwy yn Sir Feirionnydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw